Cofnodion y cyfarfod diwethaf
26 Ionawr 2016
Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
YN BRESENNOL: |
|
|
|
Bethan Jenkins AC (Cadeirydd) |
Dwyrain De Cymru/Plaid Cymru |
Katie Dalton (ysgrifennydd) |
Gofal |
Jane Burgoyne |
Cwnselydd Arweiniol, Gofal Sylfaenol |
Julie Davies |
Mental Health Matters Wales |
Ewan Hilton |
Gofal |
Julie Jones |
Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf |
Menna Jones |
Anhwylderau Bwyta Haen 3, Arweinydd Clinigol y Tîm, Caerdydd a'r Fro/Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
Manon Lewis |
Defnyddiwr gwasanaeth |
Gerrard McCullagh |
Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta i Oedolion, Haen 3, De Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Michaela Moore |
Mental Health Matters Wales |
Don Ribeiro |
Gofalwr |
Dr Khesh Sidhu |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Jacinta Tan |
Prifysgol Abertawe/Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
CPGED/NAW4/33 - Croeso ac ymddiheuriadau |
Camau gweithredu |
Croesawodd Bethan Jenkins y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.
CAFWYD: Ymddiheuriadau gan aelodau absennol
|
|
CPGED/NAW4/34 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
Camau gweithredu |
CYTUNWYD: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf.
|
|
CPGED/NAW4/35 – Materion yn codi |
Camau gweithredu |
TRAFODWYD: Materion yn codi
CPGED/NAW4/25 - Iechyd meddwl ac anhwylderau bwyta mewn ysgolion Cam gweithredu: BJ i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg BJ i ysgrifennu at awdurdodau lleol Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Anfonwyd llythyrau at y Gweinidog Addysg ac awdurdodau lleol. Cafwyd ymatebion erbyn hyn gan y Gweinidog Addysg a chan sawl awdurdod lleol. Roedd copïau ar gael i aelodau'r grŵp. Trafododd yr Aelodau ansawdd amrywiol yr ymatebion a gafwyd, a'r ffaith bod rhai ohonynt yn cynnwys camsyniadau am anhwylderau bwyta a'r cwricwlwm. Cytunodd y grŵp y byddai dogfen gryno yn cael ei chynhyrchu pan fydd mwy o ymatebion yn dod i law, ac y byddai'r ddogfen hon yn cael ei hanfon at y Gweinidog Addysg.
CPGED/NAW4/27 - maniffestos etholiad y Cynulliad CAM I’W GYMRYD: BJ/KD i anfon y ddogfen materion allweddol at bleidiau gwleidyddol KD i ychwanegu datblygiad yr addewidion allweddol i agenda'r cyfarfod nesaf Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae KD wedi anfon y ddogfen materion allweddol at y pleidiau gwleidyddol Mae datblygiad yr addewidion allweddol ar yr agenda ar gyfer cyfarfod heddiw.
CPGED/NAW4/28 - Gwasanaethau anhwylderau bwyta yng ngogledd Nghymru Cam gweithredu: EH i siarad â swyddogion Llywodraeth Cymru Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae EH yn gwirio'r cynnydd a wnaed ar y mater hwn. Bydd yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf.
|
KD i gynhyrchu dogfen gryno wedi i ragor o ymatebion ddod i law.
|
CPGED/NAW4/36 - Diweddaru Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru |
Camau gweithredu |
Croesawodd Bethan Jenkins Dr Khesh Sidhu i'r cyfarfod a diolchodd iddo am ddychwelyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am ei waith ar adnewyddu Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru.
Amlinellodd KS y broses adnewyddu, a oedd yn cynnwys archwiliad o'r canlyniadau i gleifion ac ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y we (ac a oedd wedi'i anelu'n bennaf at weithwyr proffesiynol), ynghyd â dau ddigwyddiad cyhoeddus ar gyfer ymgysylltu â chleifion ac aelodau o'u teuluoedd neu ofalwyr yng ngogledd a de Cymru.
Amlinellodd KS y data a archwiliwyd ganddo mewn perthynas â'r canlyniadau, gan gynnwys canlyniadau BMI a chanlyniadau seicolegol ar gyfer plant ac oedolion, ar draws haenau 2, 3 a 4. Tynnodd yr adborth a gafwyd o'r digwyddiadau ymgysylltu sylw at bwysigrwydd peidio ag asesu data BMI ar eu pen eu hunain, a hefyd at y ffaith bod canlyniadau seicolegol yn hanfodol. Codwyd pryderon gan rai aelodau ynglŷn â chynnwys data BMI mewn perthynas â bwlimia. Cytunodd KS i edrych ar y mater hwn eto. Gofynnwyd cwestiynau hefyd ynghylch a fyddai'n bosibl nodi'r effaith tymor hwy ar bwysau pobl a'u canlyniadau seicolegol. Cytunodd KS y byddai hyn yn ddefnyddiol o ran asesu effeithiolrwydd tymor hir triniaethau.
Amlinellodd KS y materion a gododd yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y we - gan gynnwys y sylwadau anffafriol a wnaed ynghylch y dull gweithredu, a'r pryder mawr a fynegwyd ynghylch y diffyg dieteteg a welwyd yn y fframwaith gwreiddiol. Eglurodd KS y byddai'r rhain yn cael sylw yn y fframwaith ar ei newydd wedd ac y byddai adrannau newydd yn ymwneud â dieteteg yn cael eu cynnwys.
Siaradodd KS am y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a Wrecsam, gan nodi bod y rhanddeiliaid wedi cael budd ohonynt. Roedd y digwyddiadau hyn yn fannau diogel (gyda hwyluswyr nad oeddent yn gysylltiedig â gwasanaethau lleol) lle'r oedd pobl â phrofiad o fyw gydag anhwylderau bwyta, aelodau o'u teuluoedd a gofalwyr yn gallu siarad am eu profiadau o ran yr hyn a oedd wedi llwyddo a'r hyn nad oedd wedi llwyddo wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau. Roedd yr adborth am y digwyddiadau yn gadarnhaol iawn, ac roedd y themâu a godwyd gan y rhanddeiliaid yn rhai cyson (o ran yr hyn a oedd wedi llwyddo a'r hyn nad oedd wedi llwyddo). Roedd y themâu hyn yn cynnwys: · Gwybodaeth ac agwedd staff · Dulliau cyfannol o geisio sicrhau gwellhad · Grymuso cleifion a gofalwyr · Cynllunio ar gyfer y cyfnod ar ôl i gleifion gael eu rhyddhau · Cyflymder y broses atgyfeirio · Gwybodaeth i gleifion a gofalwyr
Amlinellodd KS y prif newidiadau i'r fframwaith, sy'n cynnwys: · Monitro camau gweithredu Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol - gan gynnwys canlyniadau a mesurau yn ymwneud â phrofiad cleifion · Dieteteg - disgrifiadau a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy'n benodol i'r haenau gwahanol · Therapi teuluol - dywedodd nifer o bobl yn y digwyddiadau ymgysylltu fod therapi teuluol wedi bod yn ddefnyddiol iawn, neu, fel arall, eu bod wedi dyheu am gael mynediad ato · Adnewyddu cyfreithiol - i gynnwys cyfeiriadau at wasanaethau a hawliau cleifion ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, sydd wedi cael ei roi ar waith ers cyhoeddi'r fframwaith cyntaf.
Bydd y fframwaith ar ei newydd wedd yn cynnwys Atodiad a fydd yn cynnwys data ar ganlyniadau ac adborth o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y we a'r digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus. Y camau nesaf: Esboniodd KS y byddai angen i'r fframwaith ar ei newydd wedd gael ei gymeradwyo gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn iddo gael ei gyhoeddi.
|
|
CPGED/NAW4/37 - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: cynllun cyflenwi 2 |
Camau gweithredu |
Dywedodd KD wrth aelodau'r grŵp trawsbleidiol fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ar gyfer 2016-19, a bod y cynllun hwn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus tan 4 Ebrill.
Tynnodd KD sylw at adran 7.6, sy'n ymwneud ag anhwylderau bwyta:
7.6. Sicrhau bod gwasanaethau priodol ac amserol ar gael i bobl o bob oed sydd ag anhwylder bwyta.
(i) Byrddau iechyd i sicrhau bod y fframwaith anhwylder bwyta diweddaraf ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc yn cael ei roi ar waith yn llawn drwy Gymru yn unol â chanllawiau NICE, a bod triniaeth amserol ar gael - erbyn mis Medi 2017. (ii) Byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau i drin anhwylder bwyta mor agos â phosibl at gartrefi’r rhai sy’n cael eu trin, naill mewn lleoliadau preswyl neu yn y gymuned - erbyn mis Medi 2016.
Mesurau Perfformiad Gostyngiad o 50% mewn lleoliadau y tu allan i ardal y rhai sy’n cael eu trin erbyn 2017/18, gan ddefnyddio gwaelodlin 2013/14
Mynegodd yr aelodau siom am y ffaith mai dyma'r unig gyfeiriad at anhwylderau bwyta sydd i'w weld y cynllun cyflawni, ac am y ffaith nad yw'r mesurau perfformiad yn cynnwys unrhyw beth am ganlyniadau neu foddhad cleifion.
Mynegodd yr aelodau ddiddordeb yn y posibiliad o ymateb i'r ymgynghoriad a thynnu sylw at feysydd i'w gwella. Gofynnwyd i KD ysgrifennu crynodeb o'r materion y gallai'r aelodau eu codi yn eu hymatebion i'r ymgynghoriad a'i anfon at aelodau'r grŵp trawsbleidiol gyda lincs perthnasol a gwybodaeth am yr ymgynghoriad.
|
KD i baratoi gwybodaeth a'i dosbarthu ymhlith yr aelodau. |
CPGED/NAW4/38 - Addewidion allweddol: Etholiad y Cynulliad Cenedlaethol, 2016 |
|
Trafododd yr Aelodau y posibilrwydd o ddatblygu cyfres o addewidion neu ddatganiadau y gellid eu hanfon at ymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol i dynnu sylw at y materion allweddol y mae pobl sy'n byw gydag anhwylderau bwyta a gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru yn eu hwynebu.
Cytunwyd y byddai'r rhain yn cael eu seilio ar ddogfen materion allweddol y grŵp trawsbleidiol, gan fod y cynnwys wedi'i gytuno eisoes gan aelodau'r grŵp - gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, aelodau o'u teuluoedd/gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a chynrychiolwyr y trydydd sector. Y meysydd a awgrymwyd oedd: · Gofal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar · Ymwybyddiaeth a gwybodaeth mewn ysgolion · Stigma a gwahaniaethu · Sgiliau ac agweddau mewn lleoliadau anarbenigol · Hyrwyddo dulliau cyfannol o geisio sicrhau gwellhad
Cytunwyd y byddai KD yn datblygu taflen electronig sy'n cynnwys y materion hyn ac yn ei dosbarthu ymhlith aelodau'r grŵp trawsbleidiol er mwyn iddynt gael cyfle i wneud sylwadau. Unwaith y bydd y ddogfen yn cael ei chwblhau, bydd yn cael ei chyhoeddi ar-lein a bydd pobl sydd â diddordeb mewn anhwylderau bwyta yn cael eu hannog i gysylltu â'u hymgeiswyr lleol er mwyn codi'r materion a amlinellir yn y daflen. Os bydd amser yn caniatáu, bydd y graffigyn yn cael ei lansio yn ystod wythnos ymwybyddiaeth anhwylderau bwyta - w/d 22 Chwefror.
|
KD i ddatblygu taflen electronig, ei chylchredeg er mwyn cael adborth, ei chwblhau a'i chyhoeddi. |
Eglurodd Bethan Jenkins y byddai'r Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta yn symud ymlaen at ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
26 Ionawr 2016
Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
CPGED/NAW4/39 – Adroddiad blynyddol a Datganiad Ariannol Blynyddol |
Camau gweithredu |
Eglurodd KD fod rheolau'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gweithredu grwpiau trawsbleidiol yn ei gwneud yn ofynnol ar bob grŵp i gyflwyno adroddiad blynyddol a datganiad ariannol blynyddol.
Cafodd y dogfennau hyn eu paratoi a'u dosbarthu gyda'r gwaith papur ar gyfer y cyfarfod hwn. Eglurodd KD fod y dogfennau'n darparu manylion ynghylch aelodau'r grŵp, eu presenoldeb ym mhob cyfarfod, y materion a drafodwyd ym mhob cyfarfod ac unrhyw gyfraniadau ariannol a wnaed tuag at y broses o weithredu'r grŵp trawsbleidiol.
CYTUNWYD
Cytunodd y grŵp fod yr Adroddiad Blynyddol a'r Datganiad Ariannol yn adlewyrchu gweithgareddau'r grŵp trawsbleidiol dros y flwyddyn ddiwethaf mewn modd cywir. |
KD i anfon y dogfennau at y Swyddfa Gyflwyno |
Diolchodd Bethan Jenkins AC i bawb am ddod. |
|